Marc 12:41-44

Marc 12:41-44 DAW

Roedd Iesu'n eistedd yn y deml gogyfer â chist y drysorfa, ac yn sylwi ar y ffordd roedd y dyrfa yn cyfrannu eu harian. Roedd llawer o'r bobl gyfoethog yn rhoi yn hael. Daeth gweddw dlawd heibio a rhoddodd ddwy hatling i mewn — swm bach iawn o arian. Galwodd Iesu'r disgyblion ynghyd a dwedodd wrthyn nhw, “Credwch fi, rhoddodd y weddw dlawd yma fwy na neb arall. Roedden nhw'n rhoi o'u cyfoeth, ond rhoddodd hon, o'i thlodi, y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”