Marc 13:28-31

Marc 13:28-31 DAW

“Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd y pren wedi blaguro ac yn dechrau deilio, byddwch chi'n gwybod fod yr haf yn agos. Yn yr un modd, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos iawn. Credwch fi, ddaw'r genhedlaeth hon ddim i ben nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Aiff y nef a'r ddaear heibio, ond bydd fy ngeiriau i yn aros.