Marc 3

3
3. IESU A'R DILYNWYR
Iacháu'r Dyn oedd â'i Law wedi ei Pharlysu (Marc 3:1-6)
1-6Aeth Iesu i'r synagog eto, ac roedd dyn yno â'i law wedi ei pharlysu. Roedd y gynulleidfa'n gwylio Iesu i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, fel y gallen nhw gwyno yn ei erbyn. Dwedodd Iesu wrth y dyn afiach: “Saf yn y canol.” Yna holodd y gynulleidfa, “Ydy hi'n iawn i wneud da ar y Saboth, neu i wneud drwg, i achub bywyd neu i ladd?” Roedd pawb yn fud. Edrychodd Iesu o amgylch. Yna gwylltiodd wrthyn nhw, a theimlai'n drist oherwydd eu rhagfarnau, a dwedodd wrth y dyn, “Estyn allan dy law.” Estynnodd y dyn ei law ac iachawyd hi. Yn y man, aeth y Phariseaid i ffwrdd a chynllwynio gyda'r Herodianiaid sut i ladd Iesu.
Tyrfa ar Lan y Môr (Marc 3:7-12)
7-12Aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion i lan y môr, a daeth nifer fawr ar eu hôl o Galilea. Ar ôl iddyn nhw glywed sôn am y pethau eithriadol roedd e'n eu gwneud, daeth tyrfa enfawr ato o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea ac o'r wlad tu hwnt i'r Iorddonen ac o amgylch Tyrus a Sidon. Gofynnodd Iesu i'w ddisgyblion gael cwch yn barod iddo, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu. Am ei fod wedi iacháu llawer ohonyn nhw, roedd gweddill y cleifion yn gwthio tuag ato er mwyn cyffwrdd ag e. Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, bydden nhw'n syrthio o'i flaen a gweiddi: “Ti ydy Mab Duw.” Byddai Iesu'n eu rhybuddio nhw'n arw i beidio â dweud wrth neb.
Dewis y Deuddeg Disgybl (Marc 3:13-19)
13-19Aeth Iesu i fyny'r mynydd a galwodd ato y rhai roedd ef am fod yn eu cwmni. Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw i aros gydag ef, er mwyn iddo'u hanfon i bregethu ac i fwrw allan gythreuliaid. Dyma enwau'r Deuddeg a ddewiswyd ganddo: Simon (a alwodd yn Pedr), Ioan ac Iago (meibion Sebedeus a alwodd yn Boanerges, hynny ydy, “Meibion y Daran”), Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot, yr un oedd wedi'i fradychu.
Iesu a Beelsebwl (Marc 3:20-30)
20-30Daeth Iesu i'r tŷ, a daeth tyrfa fawr unwaith eto, fel nad oedd yn bosibl iddyn nhw gael cymaint â phryd o fwyd. Pan glywodd ei deulu, aethon nhw allan i'w rwystro, am fod y bobl yn dweud: “Mae e wedi drysu.” Roedd yr ysgrifenyddion a ddaeth i lawr o Jerwsalem hefyd yn dweud, “Mae Beelsebwl ynddo ac mae'n bwrw allan gythreuliaid yn enw pennaeth y cythreuliaid.” Galwodd Iesu'r ysgrifenyddion ato a dwedodd y damhegion hyn wrthyn nhw: “Sut y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas wedi'i rhannu yn ei herbyn ei hunan, ni all y deyrnas honno fyth sefyll. Os bydd tŷ wedi'i rannu yn ei erbyn ei hunan, ni all y tŷ hwnnw fyth sefyll. Os ydy Satan wedi codi yn ei erbyn ei hunan ac ymrannu, ni all yntau sefyll chwaith; mae ar ben arno. Cyn y gall neb dorri i mewn i gartref dyn cryf a dinistrio'i gelfi, mae'n rhaid iddo'i rwymo yn gyntaf, ac yna ddistrywio'r lle. Credwch fi, rydw i'n dweud y gwir, maddeuir popeth i bawb; eu pechodau a'u cableddau i gyd; ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff hwnnw faddeuant byth; mae e'n euog o bechod diderfyn.” Dwedodd Iesu hyn am fod rhai ohonyn nhw'n dweud bod ysbryd drwg ynddo.
Mam a Brodyr Iesu (Marc 3:31-35)
31-35Daeth mam Iesu a'i frodyr i'r lle roedd, a dyma nhw'n anfon gair ato i'w alw i ddod atyn nhw. Roedd y dyrfa'n eistedd o'i amgylch a dwedodd rhai ohonyn nhw, “Mae dy fam a dy frodyr di draw acw yn chwilio amdanat ti.” Atebodd yntau, “Pwy ydy fy mam a fy mrodyr i?” Edrychodd Iesu ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas, a dwedodd, “Dyma fy mam a fy mrodyr. Mae pob un sy'n gwneud ewyllys Duw yn frawd, yn chwaer ac yn fam i mi.”

المحددات الحالية:

Marc 3: DAW

تمييز النص

شارك

نسخ

None

هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول