Marc 6:30-44

Marc 6:30-44 DAW

Dychwelodd yr apostolion at Iesu ac adrodd wrtho'r holl bethau roedden nhw wedi'u gwneud a'u dysgu wrth fynd o amgylch y wlad. Dwedodd Iesu, “Dewch, gwell i ni fynd o'r neilltu er mwyn i chi orffwys am dipyn.” Doedd fawr o gyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed, am fod cymaint o fynd a dod drwy'r amser. Yna, aethon nhw allan ar eu pennau eu hunain yn y cwch i le unig. Gwelodd llawer nhw'n mynd, a'u nabod, a rhedon nhw o'r trefi cyfagos a chyrraedd y lle o'u blaenau. Pan laniodd Iesu a gweld y dyrfa fawr, teimlodd drueni drostyn nhw am eu bod fel praidd o ddefaid heb fugail, a dechreuodd eu dysgu. Yn hwyr y prynhawn daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Mae'r lle yma'n unig ac mae hi'n hwyr. Gad i'r bobl fynd i'r ardal o amgylch i brynu ychydig o fwyd.” Atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth iddyn nhw i'w fwyta.” Dwedodd y disgyblion wrtho, “Ydyn ni i brynu gwerth dau gant o ddarnau arian o fwyd a'i roi iddyn nhw i'w fwyta?” Dwedodd Iesu, “Ewch i weld sawl torth sy gyda chi.” Ar ôl edrych dwedon nhw, “Pum torth, a dau bysgodyn.” Dwedodd wrth y disgyblion am drefnu'r bobl i eistedd yn gwmnïoedd ar y gwair, a dyna a wnaethpwyd. Yna, gan edrych tua'r nef, bendithiodd Iesu y pum torth a'r ddau bysgodyn. Torrodd nhw a'u rhoi i'r disgyblion i'w rhannu i'r bobl; hefyd rhannodd y ddau bysgodyn. Bwytaodd pawb a chael eu digoni. Wedi iddyn nhw fwyta casglwyd deuddeg basgedaid o friwsion, ac ychydig o'r pysgod er bod cynifer â phum mil wedi bwyta.