Y Salmau 19

19
SALM XIX
Cali enarrant.
Dangos gogoniant Duw yn eu greaduriaid, a’i gyfraith, a’i râs.
1Datgan y nefoedd fowredd Duw,
yr unrhyw gwna’r ffurfafen.
2Y dydd i ddydd, a’r nos i nos,
sy’n dangos cwrs yr wybren.
3Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na mor, na thir,
na chlywir eu lleferydd.
4Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a’i geiriau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a’i gwmpas sydd bell,
a’i babell yn y nefoedd.
5O’r hon y cyfyd ef yn rhod,
fel priod o’i orweddfa.
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
6O eithaf hyd eithafoedd nef,
y mae ef a’i amgylchiad,
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o’i oleuad.
7Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn
a dry i’r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wybodaeth i’r ffyddloniaid.
8Deddfau Duw Ion ydynt union,
llawenant galon ddiddrwg,
A’i orchymyn sydd bur diau
a rydd olau i’r golwg.
9Ofn yr Arglwydd sydd lân:
ac byth y pery’n ddilyth hyfryd,
Barnau’r Arglwydd ynt yn wir llawn
i gyd, a chyfiawn hefyd.
10Mwy deisyfedig ynt nac aur,
ie na choethaur lawer,
Melysach hefyd ynt na’r mel,
sef dagrau terfel tyner.
11Cans ynthynt dysgir fi, dy wâs
ar addas a’r unionder:
A’r holl gamp sy o’i cadw nhwy,
felly cair gobrwy lawer.
12Er hynny i gyd, pwy a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi’n lân, (a bydd ddiddig)
o’m holl guddiedig feiau.
13Duw attal feiau rhyfig, chwant,
na thyfant ar fy ngwarthaf:
Yno byddaf wedi ’nglanhau
o’m holl bechodau mwyaf.
14O Arglwydd, fy mhrynwr a’m nerth,
bydded yn brydferth gennyd.
Fy ’madrodd, pan ddel gar dy fron,
a’m myfyr calon hefyd.

Цяпер абрана:

Y Salmau 19: SC

Пазнака

Падзяліцца

Капіяваць

None

Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце