Mathew 6

6
Crefydd: hen a newydd
1Gofelwch beidio â gwneud sioe gyhoeddus o’ch crefydd er mwyn cael sylw gan ddynion: os gwnewch chi, fe gollwch wobr eich Tad nefol. 2Felly, pan fyddi di’n gwneud tro da â rhywun, paid â chyhoeddi’r peth ag utgorn, fel mae rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac ar y strydoedd, er mwyn cael eu canmol gan bobl. Credwch chi fi: maen nhw wedi derbyn eu gwobr eisoes. 3Na; pan fyddi di’n gwneud tro da, paid â gadael i’th law chwith wybod beth y mae dy law dde’n ei wneud 4er mwyn cadw’r tro da o’r golwg; fe gei di dy wobr gan dy Dad sy’n gweld beth a wneir o’r golwg.
5“A phan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch â bod fel y rhagrithwyr. Maen nhw’n hoffi sefyll i weddïo yn y synagogau ac ar gonglau’r strydoedd, er mwyn cael eu gweld gan ddynion. Credwch chi fi: maen nhw wedi cael eu gwobr eisoes. 6Ond pan fyddi di’n gweddïo, dos i’th ystafell ar dy ben dy hun, ac wedi cau’r drws, gweddïa ar dy Dad sydd o’r golwg; ac fe gei di dy wobr gan dy Dad sy’n gweld beth a wneir o’r golwg.
7“A phan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch â chlebran fel y paganiaid. Maen nhw’n credu mai yn ôl nifer mawr eu geiriau y cân nhw wrandawiad. 8Peidiwch, felly, â’u hefelychu nhw. Mae’ch Tad yn gwybod beth ydy’ch angen chi cyn ichi ofyn iddo. 9Fel hyn, felly, y dylech chi weddïo:
‘Ein Tad nefol,
Gad i’th enw gael ei barchu;
10Gad i’th Deyrnasiad ddod,
Gwneler yr hyn a fynni di, ar y ddaear fel yn y Nefoedd.
11Rho inni heddiw ein bara yn ôl ein hangen,
12Maddau inni y drwg a wnaethom,
Fel rydym ninnau wedi maddau i eraill y drwg a wnaethon nhw i ni.
13Paid â’n dwyn ni i’r prawf, ond cadw ni rhag yr un drwg.’
14Oherwydd os maddeuwch chi i eraill y drwg a wnaethon nhw, fe faddeua’ch Tad nefol hefyd i chi. 15Ond os na faddeuwch chi i eraill y drwg a wnaethon nhw, chewch chithau ddim maddeuant gan eich Tad am eich drwg.
16“Pan fyddwch chi’n ymprydio, peidiwch ag edrych yn drist fel y rhagrithwyr. Maen nhw’n tynnu wynebau hirion er mwyn i bobl weld eu bod nhw’n ymprydio. Credwch fi: maen nhw wedi cael eu gwobr eisoes. 17Na, pan fyddi di’n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb, 18rhag i neb wybod dy fod yn ymprydio ond dy Dad sydd o’r golwg. Fe gei dy wobr gan dy Dad sy’n gweld beth sy’n digwydd o’r golwg.”
Ymddiried yn Nuw, nid mewn eiddo
19“Peidiwch â phentyrru trysorau i chi’ch hunain yn y byd hwn lle mae gwyfyn a rhwd yn eu bwyta nhw a lladron yn torri i mewn i’w lladrata nhw. 20Pentyrrwch drysor i chi’ch hunain yn y nefoedd, lle nad oes gwyfyn a rhwd i’w ddifetha na lladron i dorri i mewn a’i ddwyn. 21Oherwydd lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
22“Lamp y corff yw’r llygad. Os bydd dy lygad di’n iach, fe fydd dy gorff i gyd yn llawn goleuni; 23ond os bydd dy lygad di’n ddrwg, fe fydd dy gorff i gyd mewn tywyllwch. Ac os tywyllwch yw’r golau sydd ynot ti mae hi’n dywyll arnat ti mewn gwirionedd.
24“Ni all neb fod yn deyrngar i ddau feistr. Rhaid iddo naill ai gasáu un a charu’r llall, neu fod yn deyrngar i un ac yn ddirmygus o’r llall. Ni ellwch fod yn deyrngar i Dduw a golud.”
Gofal a Gofid
25“Dyna pam rydw i’n dweud wrthych chi am beidio â phryderu beth wnewch chi ei fwyta neu’i yfed, neu beth a wisgwch amdanoch. Onid yw’ch bywyd chi’n bwysicach na’r bwyd, a’r corff yn bwysicach na’r dillad? 26Edrychwch ar adar yr awyr; ’dydyn nhw ddim yn hau nac yn medi, nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae’ch Tad nefol yn eu bwydo nhw. Ydych chi ddim yn fwy gwerthfawr yn ei olwg ef na nhw? 27A all un ohonoch chi wrth bryderu am y peth dyfu fodfedd yn dalach? 28A pham poeni am ddillad? Meddyliwch am y lili gwylltion, sut y maen nhw’n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu, 29ond rydw i’n dweud wrthych chi nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei holl odidowgrwydd wedi ei wisgo yn debyg i un ohonyn nhw. 30Wel ynteu, os yw Duw’n dilladu porfa’r maes, sy’n fyw heddiw ac yn cael ei daflu i’r ffwrn yfory, onid yw ef yn debycach o lawer o ofalu am ddillad i chi — chi sydd mor wan eich ffydd?
31“Felly, rhowch y gorau i bryderu a holi o hyd, ‘Beth gawn ni i’w fwyta? Beth gawn ni i’w yfed? Beth gawn ni i’w wisgo?’ 32Y paganiaid sy’n ceisio’r pethau hyn i gyd. Mae’ch Tad nefol yn gwybod fod arnoch chi angen y pethau hyn i gyd. 33Rhowch eich bryd a’ch serch ar ei Deyrnasiad ef ac ar ei gyfiawnder yn gyntaf; fe ddaw’r pethau hyn yn ychwanegol i chi. 34Peidiwch â phryderu am yfory; fe ofala yfory amdano’i hun. Digon i’r dydd ei drafferthion ei hun.”

Цяпер абрана:

Mathew 6: FfN

Пазнака

Падзяліцца

Капіяваць

None

Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце