Ioan 13:12-17
Ioan 13:12-17 CJW
Gwedi iddo olchi eu traed hwy, efe á roddes ei fantell am dano, a gwedi gosod ei hun drachefn wrth y bwrdd, á ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi beth á fum yn ei wneuthur i chwi? Yr ydych yn fy ngalw i yr Athraw a’r Meistr; ac yr ydych yn dywedyd yn iawn; canys felly yr ydwyf. Am hyny, os myfi, y Meistr a’r Athraw, á olchais eich traed chwi; chwithau á ddylech hefyd olchi traed eich gilydd. Canys rhoddais anghraifft i chwi, fel y gwnelech chwithau megys y gwneuthym i chwi. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, nid yw y gwas yn fwy na’i feistr, na’r apostol yn fwy na’r hwn à’i danfonodd ef. Gwỳn eich byd y rhai à wyddoch y pethau hyn, os gwnewch hwynt.