Ioan 15:1-7
Ioan 15:1-7 CJW
Myfi yw y wir winwydden, a’m Tad yw y gwinllanydd. Pob cangen ddiffrwyth ynof fi, y mae efe yn ei hysgythru ymaith: pob cangen ffrwythlawn y mae efe yn ei glanâu drwy ei brigdòri, èr ei gwneuthur yn ffrwythlonach. Am danoch chwi, yr ydych eisoes yn lân drwy yr addysgiadau à roddais i chwi. Aroswch ynof fi, a mi á arosaf ynoch chwithau: fel na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden; felly, ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi. Myfi yw yr winwydden; chwithau yw y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, ac yn yr hwn yr wyf finnau yn aros, sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid wedi eich gwahanu oddwrthyf fi, ni ellwch chwi wneuthur dim. Onid erys un ynof fi, efe á deflir allan fel y cangenau crinion, y rhai á gesglir yn danwydd, ac á losgir. Os aroswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, chwi á ellwch ofyn y peth à fỳnoch, ac efe á ganiatêir i chwi.