Ioan 16:12-15

Ioan 16:12-15 CJW

Y mae genyf eto lawer o bethau iddeu dywedyd i chwi, ond ni ellwch hyd yma eu dwyn hwynt. Ond pan ddêl Ysbryd y Gwirionedd, efe á’ch arwain chwi i’r holl wirionedd; oblegid ei eiriau ni ddeilliant o hono ei hun; ond pa bethau bynag á glywo, á lefara efe, a phethau i ddyfod á ddengys efe i chwi. Efe á’m gogonedda i; canys efe á gymer o’r eiddof, ac á’i mynega i chwi. Bethbynag sydd eiddo y Tad, sydd eiddof fi; am hyny, yr wyf yn dywedyd, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.

Чытаць Ioan 16