Ioan 16:25-33
Ioan 16:25-33 CJW
Y pethau hyn á lefarais wrthych mewn ffugyrau: y mae yr amser yn nesu, pan na lefarwyf wrthych mewn ffugyrau mwyach, ond ych addysgaf chwi yn eglur am y Tad. Yna y gofynwch yn fy enw, a nid wyf yn dywedyd yr attolygaf fi àr y Tad drosoch: oblegid y mae y Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i oddwrth Dduw. O wydd y Tad y daethym i’r byd. Drachefn, yr wyf yn gadael y byd, ac yn dychwelyd at y Tad. Ei ddysgyblion á atebasant, Yn awr yn wir yr wyt ti yn llefaru yn eglur, a heb ffugyr. Yn awr yr ydym yn coelio dy fod yn gwybod pob peth, a na raid i ti holi o neb dydi. Wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddwrth Dduw. Iesu á’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig; èr hyny nid wyf fi yn unig, oblegid y mae y Tad gyda myfi. Y pethau hyn á ddywedais wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder á gewch. Ond cymerwch gysur! myfi á orchfygais y byd.