Ioan 7:2-9

Ioan 7:2-9 CJW

A gwyl Iuddewig y pebyll oedd yn agos. Am hyny ei frodyr ef á ddywedasant wrtho, Ymâd o’r wlad yma, a dos i Iuwdea, fel y gwelo dy ddysgyblion hefyd y gweithredoedd yr wyt ti yn eu gwneuthur. Canys pwybynag sydd yn ceisio bod yn enwog, nid yw yn gwneuthur dim yn ddirgel; gàn dy fod yn gwneuthur y fath bethau, dangos dy hun i’r byd. (Canys nid oedd hyd yn nod ei frodyr yn credu ynddo.) Iesu á atebodd, Ni ddaeth fy amser i eto; rhyw amser á wnaiff y tro i chwi. Ni ddichon y byd eich casâu chwi; ond myfi y mae yn ei gasâu, am fy mod i yn dadguddio drygioni ei weithredoedd ef. Ewch chwi i’r wyl hon: nid wyf fi yn myned yno, oblegid nid fy amser i ydyw. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á arosodd yn Ngalilea.

Чытаць Ioan 7