Ioan 18:1-11
Ioan 18:1-11 DAFIS
Pan wedo Iesu'r pethe 'ma i gyd, âth e mas 'da i ddisgiblion a croeshi nant Cidron. We gardd fa 'ny, a âth i ddisgiblion a finte miwn iddi. We jwdas, ir un we'n mind i roi e lan, in gwbod am y lle 'fyd achos we Iesu'n arfer cwrdd â'i ddisgiblion fan 'ny. Cwmro Jwdas grŵp o sowldwrs a gweishon i penffeiradon a'r Ffariseied, a dethon nhwy a lanteri, ffagle a arfe. Gwedo Iesu wrthon nhwy, a finte'n gwbod popeth we'n mynd i ddigwydd iddo fe, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” Atebon nhwy, “Iesu o Nasareth.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Fi yw e.” We Jwdas 'fyd, ir un we in i roi e lan, in sefyll gidan nhwy. Pan wedo Iesu wrthyn nhwy, “Fi yw e”, ethon nhwy am nôl a cwmpo ar i ddeiar. So holodd e nhwy shwrne 'to, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” Gwedon nhwy, “Iesu o Nasareth.” Atebo Iesu, “Wedes i wrthoch chi taw fi yw e. Os ŷch chi'n drichid amdana i, gadwch i'r dinion hyn fynd” — fel bo'r gair wedd e wedi'i weud in dod in wir, “Sena i wedi colli neb o'r rhei nes di roi i fi.” We cleddyf gida Simon Pedr, a fe dinodd hi mas a bwrw gwas i Ffeirad Mowr, a torri'i glust dde fe bant. Enw'r gwas we Malchus. Gwedo Iesu wrth Pedr, “Rho di gleddyf nôl. Sena i'n mynd i hifed o'r cwpan ma'n Dad wedi rhoi i fi?”

