Ioan 20:19-23
Ioan 20:19-23 DAFIS
Wedd i'n hwyr in prinawn ir un darnod, dwarnod cinta'r wsnoth, a we'r drwse lle we'r disgiblion wedi cau'n dynn achos we ofon ir Iddewon arnyn nhwy. Dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy, a gweu 'tho nhwy, “Heddwch i chi.” Wedi 'ddo weud 'na dangosodd e i ddwylo a'i ochor iddyn nhwy. We'r disgiblion wrth u bodde pan welon nhwy'r Arglwidd. Gwedo Iesu wrthyn nhwy shwrne 'to, “Heddwch i chi. Fel ma'r Tad wedi'n hala i, dw i'n ich hala chi.” Wedi 'ddo weud 'na anadlodd e arnyn nhwy a gweu 'tho nhwy, “Derbiniwch ir Isbryd Glân. Os newch chi fadde pechode unrhyw un, wedyn gewn nhwy'u madde; os gadwch chi bechod unrhiw un, wedyn gawn nhwy'u cadw.”

