Marc 10:13-16
Marc 10:13-16 DAFIS
We dinion in dwâd â plant bach ato fe in unswydd iddo fe gâl twtsh â nhwy. On fe sharadodd i disgiblion in gas 'da'r rhei we'n dwâd â'r plant ato fe, on pan welo Iesu beth we'r disgiblion in neud wedd‐e'n grac 'da nhwy, a wedodd‐e, “Gadwch i'r plant ddwâd ata i. Peidwch u stopo nhwy, achos rhei fel hyn sy pia Teyrnas Duw. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os nadi dyn in derbyn Teyrnas Duw jwst fel ma plentyn bach in i neud eith e byth miwn 'ddi.” Cwmrodd‐e nhwy in i freiche, rhoi'i ddwylo arnyn nhwy, a rhoi i fendith iddon nhwy.

