Marc 11:20-26
Marc 11:20-26 DAFIS
In ginnar bore tranoth wrth iddon nhwy fynd heibo gwelon‐nhwy'r llwyn ffigs wedi gwywo o'r gwreidde lan. Cofiodd Pedr a gweu‐'tho fe, “Rabwni, dricha, ma'r llwyn ffigs nes ti'i roi stwr iddo wedi gwywo.” Atebodd Iesu, “Rhoiwch ich ffydd in Nuw. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os bydd unriwun in gweud wrth i mini 'ma, ‘Coda a towla d'unan i'r môr’, a seno‐fe'n ame in i galon ond in credu bo popeth mae‐e'n gweud in mynd i ddigwydd, fe ddigwyddith‐e. So dwi'n gweu'thoch chi, credwch ich bo chi wedi câl popeth ŷch‐chi'n gweddïo a gofyn amdano, a fe gewch‐chi e. Pan ŷch‐chi'n sefyll in gweddio, newch yn shwr bo chi'n madde i bobun beth binnag sy 'dach chi in u herbyn nhwy, fel bo'ch Tad chi sy'n i nefodd in madde'ch pechode chi. Ond os na fiddwch‐chi madde, fydd ich Tad chi sy'n i nefodd ddim in madde whaith.”

