Marc 15:6-15

Marc 15:6-15 DAFIS

Amser ir Ŵyl wedd‐i'n arfer 'da Peilat i adel i'r bobol ddewish un carcharor we in i shâl a'i adel e'n rhydd. We un dyn, i enw fe we Barabbas, in i shâl 'da'r rhei we wedi codi in erbyn i lliwodreth a wedi lladd lot o ddinion wrth neud 'ny. Âth i crowd lan a gofyn i Peilat i neud fel wedd‐e'n arfer i neud amser ir Ŵyl. Atebodd‐e, “Ŷch‐chi moyn i fi adel Brenin ir Iddewon in rhydd i chi?” Achos wedd e'n gwbod bo'r penffeiradon wedi i roi fe in i ddwylo fe mas o sbeit. On tima'r penffeiradon in cihirfu'r crowd i gyd fel i fod e'n gadel Barabbas in rhydd iddon nhwy in lle Iesu. Shwrne 'to ma Peilat in gofyn iddon nhwy, “Beth ŷch‐chi moyn i fi neud da'r dyn ŷch‐chi'n galw'n Frenin ir Iddewon?” Gweiddon‐nhwy nôl, “Croeshoela fe!” Gwedo Peilat wrthon nhwy, “Pam, pwy ddrwg mae‐e wedi neud?” Gweiddon‐nhwy nôl in uwch hyd 'n‐ôd, “Croeshoela fe!” A tima Peilat, we moyn pleso'r crowd, in gadel Barabbas in rhydd iddon nhwy. Wedi iddo fe gâl rhei i whipo'r Iesu rhoiodd‐e fe iddon nhwy fel gallen‐nhwy i groeshoelo fe.

Чытаць Marc 15