Marc 16:14-18

Marc 16:14-18 DAFIS

In ddiweddarach dangosodd‐e i hunan i'r un‐ar‐ddeg fel wên‐nhwy'n ishte wrth i ford in bita, a rhoiodd‐e stwr iddyn nhwy achos u diffyg ffydd nhwy a bo'u calonne nhwy mor galed, achos u bo nhwy ddim in credu'r rhei we wedi'i weld e. Gwedodd‐e wrthon‐nhwy, “Cerwch i'r byd i gyd a prigethu'r Ifingyl i bob wan jac. Geith bob un sy'n credu a câl i fididdio i safio, on ma'r un sy ddim in credu in câl i gondemo. A ble binnag bydd dinion in credu bydd pethe'n digwydd. In in enw i bydd dinion in towlu mas jawled. Dinion in sharad miwn ieithodd newy. Dinion in dala nadrodd in u dwylo. Hyd 'n‐ôd os ifan nhwy unrwbeth â gwenwn indo fe gewn nhwy ddim dolur o gwbwl. A biddan nhwy rhoi u dwylo ar ddinion we ddim in dda a'u gwella nhwy.”

Чытаць Marc 16