Genesis 12
12
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. 2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. 3Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti. 4Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran. 5Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw. 7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo. 8Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a Hai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd. 9Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.
10Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad. 11A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: 12A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw. 13Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
14A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi. 15A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo. 16Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod. 17A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram. 18A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi? 19Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith. 20A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.
Избрани в момента:
Genesis 12: BWM
Маркирай стих
Споделяне
Копиране
Искате ли вашите акценти да бъдат запазени на всички ваши устройства? Регистрирайте се или влезте
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: