Luwc 15:3-7
Luwc 15:3-7 CJW
Yna y cyfeiriodd efe atynt y gyffelybiaeth hon: Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, os cyll un o honynt, nid yw yn gadael y nawdeg a naw yn yr anialwch, ac yn myned àr ol yr hon à gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? A gwedi iddo ei chael, oni ddyd efe hi àr ei ysgwyddau yn llawen, a phan ddêl adref, á eilw yn nghyd ei gyfeillion a’i gymydogion, gàn ddywedyd wrthynt, Llawenewch gyda mi, canys cefais fy nafad à gollasid? Felly, yr wyf yn sicrâu i chwi, y mae llawenydd yn y nef am un pechadur à ddiwygio, mwy nag am nawdeg a naw o rai cyfiawn, y rhai ni raid iddynt wrth ddiwygiad.

