1
Salmau 123:1-2
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Mi dremiaf i’r entrychoedd Atat ti, Sy’n eistedd yn y nefoedd, Atat ti. Fel y mae llygaid gweision A llygaid caethforynion Yn gwylio llaw’r meistradon, Gwyliwn di, Nes deui, Arglwydd graslon, Atom ni.
Compare
Explore Salmau 123:1-2
2
Salmau 123:3-4
O bydd dugarog wrthym, Arglwydd Dduw. Tyrd i’n gwaredu’n gyflym, Arglwydd Dduw. Oherwydd cawsom ddigon O wawd a dirmyg beilchion Ac amarch cyfoethogion, Arglwydd Dduw. O trugarha yr awron, Arglwydd Dduw.
Explore Salmau 123:3-4
Home
Bible
Plans
Videos