1
Hebreaid 10:25
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
Compare
Explore Hebreaid 10:25
2
Hebreaid 10:24
A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da
Explore Hebreaid 10:24
3
Hebreaid 10:23
Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi-sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;)
Explore Hebreaid 10:23
4
Hebreaid 10:36
Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
Explore Hebreaid 10:36
5
Hebreaid 10:22
Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.
Explore Hebreaid 10:22
6
Hebreaid 10:35
Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr.
Explore Hebreaid 10:35
7
Hebreaid 10:26-27
Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr.
Explore Hebreaid 10:26-27
Home
Bible
Plans
Videos