1
Eseia 11:2-3
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ac ysbryd yr ARGLWYDD a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr ARGLWYDD: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe.
Compare
Explore Eseia 11:2-3
2
Eseia 11:1
Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef.
Explore Eseia 11:1
3
Eseia 11:4
Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.
Explore Eseia 11:4
4
Eseia 11:5
A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.
Explore Eseia 11:5
5
Eseia 11:9
Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.
Explore Eseia 11:9
6
Eseia 11:6
A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain.
Explore Eseia 11:6
7
Eseia 11:10
Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant.
Explore Eseia 11:10
Home
Bible
Plans
Videos