1
Jeremeia 14:22
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O ARGLWYDD ein DUW ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.
Compare
Explore Jeremeia 14:22
2
Jeremeia 14:7
O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn.
Explore Jeremeia 14:7
3
Jeremeia 14:20-21
Yr ydym yn cydnabod, ARGLWYDD, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di. Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni.
Explore Jeremeia 14:20-21
Home
Bible
Plans
Videos