1
Lefiticus 26:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn DDUW i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
Compare
Explore Lefiticus 26:12
2
Lefiticus 26:4
Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
Explore Lefiticus 26:4
3
Lefiticus 26:3
Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt
Explore Lefiticus 26:3
4
Lefiticus 26:6
Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
Explore Lefiticus 26:6
5
Lefiticus 26:9
A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.
Explore Lefiticus 26:9
6
Lefiticus 26:13
Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
Explore Lefiticus 26:13
7
Lefiticus 26:11
Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
Explore Lefiticus 26:11
8
Lefiticus 26:1
Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
Explore Lefiticus 26:1
9
Lefiticus 26:10
A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
Explore Lefiticus 26:10
10
Lefiticus 26:8
A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf.
Explore Lefiticus 26:8
11
Lefiticus 26:5
A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.
Explore Lefiticus 26:5
12
Lefiticus 26:7
Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.
Explore Lefiticus 26:7
13
Lefiticus 26:2
Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr ARGLWYDD.
Explore Lefiticus 26:2
Home
Bible
Plans
Videos