YouVersion Logo
Search Icon

Popular Bible Verses from Salmau 54

O bob trallod y’m gwaredant, Ca’dd fy llygad yn y fan Wel’d cyflawniad ei ewyllys Ar elynion f’ enaid gwan. NODIADAU. Y mae enwau a choffadwriaeth llawer o ddynion yn eu perthynas â Dafydd yn neillduol wedi eu cadw a’u trosglwyddo ganddo i fod yn wrthddrychau adgasrwydd a dirmyg drwy yr oesau; megys Döeg yr Edomiad yn y salm ddiweddaf ond un, a’r Ziphiaid yn y salm hon, ac ereill. Preswylwyr dinas o’r enw Ziph oedd y gwŷr hyn. Yr oedd dwy ddinas o’r enw yn Palestina, a’r ddwy o fewn rhandir Iudah hefyd: gwel Ios . xv. 24 a 55. Cymmerai y Ziphiaid bradwrus hyny y drafferth i anfon cenhadau at Saul, i’w hysbysu fod Dafydd yn eu cymmydogaeth hwy, fel y gallai efe gael cyfleusdra i’w ddal a’i ddyfetha, er na wnaethai Dafydd ddim oll yn eu herbyn hwynt, ac er ei fod yn ŵr o’u llwyth eu hunain. Mewn canlyniad i hyny bu efe megys agosaf i syrthio yn llaw Saul o un tro, fel y cawsom achlysur i sylwi o’r blaen yn ein nodiadau ar salm arall. Yn ei weddi fèr hon y mae y Salmydd yn cydblethu deisyfiadau am y nawdd ddwyfol i’w ddiogelu yn y perygl yr oedd ynddo ar y pryd, a’i hyder yn Nuw fel ei waredwr, a’i benderfyniadau i ymddiried yn yr Arglwydd, ac i’w foliannu yn wastadol. Yn yr adnod ddiweddaf, y mae y waredigaeth y gweddïai ac y disgwyliai am dani wedi dyfod. “Fy llygad a welodd fy ewyllys ar fy ngelynion,” medd efe. Gwelai Saul a’i wŷr ar unwaith yn troi oddi wrtho, pan oeddynt wedi ei amgylchynu, o herwydd i genad ddyfod at Saul i’w hysbysu fod y Philistiaid wedi ymdaenu ar hyd y wlad. Am hyny y dychwelodd Saul o erlid ar ol Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid. O herwydd hyny y galwasant y fan hono Sela Hammahlecoth , sef craig y gwahaniadau: 1 Sam xxiii. 28. Tra yr oedd Dafydd yn llechu yn anialwch Ziph, daeth ei anwylaf gyfaill, Ionathan, ato “i’r coed, ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw” (1 Sam xxiii. 16); a dyna y tro diweddaf y gwelsant wynebau eu gilydd ar y ddaear! Tybiaf fod Dafydd yn cyfeirio at y dyddanwch a gawsai yn nghymdeithas Ionathan, a thrwy y geiriau a lefarodd Ionathan, fel cenad anfonedig gan Dduw ato yn ei drallod, yn adn. 4 — lle y dywed, “Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo; yr Arglwydd sydd yn mysg y rhai a gynnaliant fy enaid.”

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 54