YouVersion Logo
Search Icon

Popular Bible Verses from Salmau 64

Yn Nuw’r cyfiawnion lawenhânt, Eu hyder roddant arno; A’r uniawn rai o galon gu Wnant orfoleddu ynddo. NODIADAU. Saul, yn ddiau, yw y gelyn y gweddïa Dafydd yn nechreu y salm hon, fel mewn llawer o’i salmau, ar i Dduw gadw ei einioes rhagddo; a’i gynghorwyr annuwiol, y rhai oeddynt o hyd yn cam achwyn arno wrth Saul, er ei annog i geisio ei einioes ef, yw y “dynion drygionus, a’r gweithredwyr anwiredd,” y cyfeiria atynt. Cafodd gyfleusdra mewn dau amgylchiad, pan yr oedd Saul a’i weision hyny yn ei erlid, i ddyweyd gair wrth y brenin am danynt yn nghlywedigaeth eu clustiau hwy eu hunain. Un oedd, pan aeth efe ac Abisai i wersyll Saul liw nos, yn anialwch Ziph, ac y cafodd hwynt oll yn cysgu, ac y cymmerodd efe waywffon Saul, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obenydd ef, ac yr aeth ymaith; ac y galwodd arno y boreu dranoeth, gan ddangos y waywffon a’r llestr dwfr fel profion o’i ddiniweidrwydd. 1 Sam xxvi; “Pa ham,” meddai wrth Saul, “mae fy Arglwydd fel hyn yn erlid ar ol ei was? canys beth a wnaethum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw? Yn awr gan hyny, attolwg, gwrandawed fy Arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr Arglwydd a’th annogodd di i’m herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melldigedig fyddant hwy ger bron yr Arglwydd; o herwydd hwy a’m gyrasant i allan heddyw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dyeithr.” Yn gyffelyb y llefara efe ar yr amgylchiad arall cyn y tro hwnw: 1 Sam xxiv. 9-14. Trechodd caredigrwydd a geiriau Dafydd Saul ar y ddau amgylchiad uchod, fel yr wylodd, y cyfaddefodd ei fai, ac y cyfiawnhaodd Dafydd; ac os oedd dim tynerwch wedi ei adael yn nghalonau ei gynghorwyr drygionus oedd yn sefyll o’i amgylch, yr oedd yn rhaid fod y geiriau a lefarai y diniwed am danynt yn gwanu drwyddynt fel picellau. Hon yw yr olaf o’i weddïau yn y dosbarth hwn, yn achos Saul a’i gynghorwyr — yn ol fel y mae y salmau wedi eu cyfleu beth bynag, os nad yn ol yr amser y cyfansoddwyd hi.

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 64