YouVersion Logo
Search Icon

Popular Bible Verses from Salmau 82

Cyfod, O Dduw! a gwna farn ar Y ddaear a’i therfysgoedd, Can’s ti a etifeddi ’r byd Ynghyd â’i holl genhedloedd. NODIADAU. Salm o addysg, a rhybudd, a chynghor i lywodraethwyr y bobl ydyw hon, a gyfansoddwyd, mi a dybygwn, gan awdwr y salm nesaf, yr hwn oedd un o feibion Asaph, yn nyddiau Iehosaphat, fel y cawn ddangos yn mhellach yn ein nodiadau. Cawn yn 2 Cron . xix. i Iehosaphat fyned trwy y bobl o Beerseba i fynydd Ephraim, a gosod barnwyr yn yr holl ddinasoedd caerog, a rhoddi siars ddifrifol iawn i’r barnwyr hyny ar iddynt edrych beth a wnelent, gan ofalu am weinyddu barn gywir a diduedd. Yr un yn hollol a mater y siars hono o eiddo y brenin ydyw mater y salm hon. Yr oedd barnwyr Iudah yn gyffredin yn ddiarhebol am eu trachwant am wobrau, eu trais, a’u hanghyfiawnder, drwy dderbyn wynebau y cyfoethogion, a gŵyro barn yn erbyn y tlawd. Achwyna y prophwydi Esaiah a Micah yn drwm iawn arnynt yn nyddiau Hezeciah, a bygythiant hwynt yn dost; ac felly y gwna y Salmydd yma gyda golwg ar farnwyr ei amser ef. Barnedigaeth drom iawn ar wlad yw barnwyr anghyfiawn a garant lwgrwobrwyon: ac nid oes un dosbarth o droseddwyr yn cael eu bygwth â dialedd Duw yn drymach a mynychach na’r dosbarth hwn. Cwyna y Salmydd (adn. 5) fod y barnwyr y pryd hyny yn anwybodus a diddeall yn nyledswyddau eu swydd, ac o herwydd hyny fod seiliau y ddaear — y wladwriaeth — megys wedi eu symmud o’u lle; a dwg ar gof iddynt, megys y gwna Iehosaphat yn ei siars, fod y Barnwr Goruchaf yn eu gwylio, ac y gelwir hwynt i gyfrif ganddo. Dysgir iddynt eu bod yn derbyn eu hawdurdod farnol oddi wrth Dduw; ac o blegid hyny gelwid hwynt yn “dduwiau,” am eu bod yn ei gynnrychioli ef, ac felly yn gyfrifol iddo fel Goruwchfarnydd cyfiawn, ac fel ei oruchwylwyr.

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 82