1
Hebreaid 1:3
beibl.net 2015, 2024
Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e’n dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy’n dal popeth yn y bydysawd gyda’i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi’n bosib i bobl gael eu glanhau o’u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.
Compare
Explore Hebreaid 1:3
2
Hebreaid 1:1-2
Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy’n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd.
Explore Hebreaid 1:1-2
3
Hebreaid 1:14
Dim ond gweision ydy’r angylion. Ysbrydion wedi’u hanfon i wasanaethu’r rhai fydd yn cael eu hachub!
Explore Hebreaid 1:14
4
Hebreaid 1:10-11
A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr. Byddan nhw’n darfod, ond rwyt ti’n aros; byddan nhw’n mynd yn hen fel dillad wedi’u gwisgo.
Explore Hebreaid 1:10-11
Home
Bible
Plans
Videos