1
Eseia 6:8
beibl.net 2015, 2024
Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon? Pwy sy’n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi’n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”
Compare
Explore Eseia 6:8
2
Eseia 6:3
Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy’r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi’r ddaear gyfan!”
Explore Eseia 6:3
3
Eseia 6:5
Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i’n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda’m llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.”
Explore Eseia 6:5
4
Eseia 6:1
Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi’r deml.
Explore Eseia 6:1
5
Eseia 6:7
Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.”
Explore Eseia 6:7
6
Eseia 6:2
Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio’i wyneb, dwy i guddio’i goesau, a dwy i hedfan.
Explore Eseia 6:2
7
Eseia 6:6
Yna dyma un o’r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi’i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.
Explore Eseia 6:6
8
Eseia 6:9
Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’
Explore Eseia 6:9
9
Eseia 6:10
Gwna nhw’n ystyfnig, tro eu clustiau’n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â’u llygaid, clywed â’u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.”
Explore Eseia 6:10
Home
Bible
Plans
Videos