1
Eseia 9:6
beibl.net 2015, 2024
Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
Compare
Explore Eseia 9:6
2
Eseia 9:2
Mae’r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
Explore Eseia 9:2
3
Eseia 9:7
Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a’i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a’i chryfhau a theyrnasu’n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.
Explore Eseia 9:7
4
Eseia 9:5
Bydd yr esgidiau fu’n sathru maes y gâd, a’r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i’r fflamau i’w llosgi.
Explore Eseia 9:5
5
Eseia 9:1
Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i’r tir aeth drwy’r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea’r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a’r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen.
Explore Eseia 9:1
6
Eseia 9:3
Ti wedi lluosogi’r genedl, a’i gwneud yn hapus iawn; maen nhw’n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu’r ysbail.
Explore Eseia 9:3
7
Eseia 9:4
Achos rwyt ti wedi torri’r iau oedd yn faich arnyn nhw, a’r ffon oedd yn curo’u cefnau nhw – sef gwialen y meistr gwaith – fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.
Explore Eseia 9:4
Home
Bible
Plans
Videos