“O ARGLWYDD, ti sy’n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn;
ti ydy’r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion.
Bydd cenhedloedd o bob rhan o’r byd
yn dod atat ti ac yn dweud:
‘Roedd ein hynafiaid wedi’u magu i addoli delwau diwerth,
pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.