Pan oedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu’n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?”
“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.”
Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”
Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?”
Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.”
Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”
Yna gofynnodd Iesu iddo’r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto’r drydedd waith, “Wyt ti’n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti’n gwybod pob peth; rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid.