Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno
a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,
a mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.