1
Marc 4:39-40
beibl.net 2015, 2024
Cododd Iesu a cheryddu’r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi’n dal ddim yn credu?”
Compare
Explore Marc 4:39-40
2
Marc 4:41
Roedden nhw wedi’u syfrdanu’n llwyr. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a’r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Explore Marc 4:41
3
Marc 4:38
Ond roedd Iesu’n cysgu’n drwm drwy’r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma’r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni’n mynd i foddi?”
Explore Marc 4:38
4
Marc 4:24
Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Gwyliwch beth dych chi’n gwrando arno. Y mesur dych chi’n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy!
Explore Marc 4:24
5
Marc 4:26-27
Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir. Mae’r wythnosau’n mynd heibio, a’r dyn yn cysgu’r nos ac yn codi’r bore. Mae’r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i’r dyn wneud dim mwy.
Explore Marc 4:26-27
6
Marc 4:23
Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!”
Explore Marc 4:23
Home
Bible
Plans
Videos