Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl, a gwneud yr un peth gyda’r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.