1
Numeri 13:30
beibl.net 2015, 2024
Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!”
Compare
Explore Numeri 13:30
2
Numeri 13:33
Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni’n teimlo’n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw’n ein gweld ni hefyd!”
Explore Numeri 13:33
3
Numeri 13:31
Ond dyma’r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio’r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw’n llawer rhy gryf i ni!”
Explore Numeri 13:31
4
Numeri 13:32
A dyma nhw’n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel, “Byddwn ni’n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni’n edrych arni. Mae’r bobl welon ni yno yn anferth!
Explore Numeri 13:32
5
Numeri 13:27
Dyma nhw’n dweud wrth Moses, “Aethon ni i’r wlad lle gwnest ti’n hanfon ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o’i ffrwyth.
Explore Numeri 13:27
6
Numeri 13:28
Ond mae’r bobl sy’n byw yno yn gryfion, ac maen nhw’n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno.
Explore Numeri 13:28
7
Numeri 13:29
Mae’r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a’r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan afon Iorddonen.”
Explore Numeri 13:29
8
Numeri 13:26
A dyma nhw’n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran, at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw’n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi’i weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl.
Explore Numeri 13:26
Home
Bible
Plans
Videos