1
Rhufeiniaid 6:23
beibl.net 2015, 2024
Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Compare
Explore Rhufeiniaid 6:23
2
Rhufeiniaid 6:14
Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy’n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi’ch gollwng chi’n rhydd!
Explore Rhufeiniaid 6:14
3
Rhufeiniaid 6:4
Wrth gael ein bedyddio, cawson ni’n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o’r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
Explore Rhufeiniaid 6:4
4
Rhufeiniaid 6:13
Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o’ch corff i’w ddefnyddio i wneud beth sy’n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a’ch defnyddio chi i wneud beth sy’n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.
Explore Rhufeiniaid 6:13
5
Rhufeiniaid 6:6
Mae beth roedden ni’n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda’r Meseia, er mwyn i’r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
Explore Rhufeiniaid 6:6
6
Rhufeiniaid 6:11
Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â’r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
Explore Rhufeiniaid 6:11
7
Rhufeiniaid 6:1-2
Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi’n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni? Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i’r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
Explore Rhufeiniaid 6:1-2
8
Rhufeiniaid 6:16
Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae’n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
Explore Rhufeiniaid 6:16
9
Rhufeiniaid 6:17-18
Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi’i ddysgu i chi. Dych chi wedi’ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy’n iawn.
Explore Rhufeiniaid 6:17-18
Home
Bible
Plans
Videos