1
Colosiaid 2:6-7
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef. Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a'ch cadarnhau yn y ffydd fel y'ch dysgwyd, a bod yn ddibrin eich diolch.
Compare
Explore Colosiaid 2:6-7
2
Colosiaid 2:8
Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.
Explore Colosiaid 2:8
3
Colosiaid 2:13-14
Ac er eich bod yn feirw yn eich camweddau a'ch cnawd dienwaededig, fe'ch gwnaeth chwi yn fyw gydag ef. Y mae wedi maddau inni ein holl gamweddau, ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwnâi ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes.
Explore Colosiaid 2:13-14
4
Colosiaid 2:9-10
Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol, ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod.
Explore Colosiaid 2:9-10
5
Colosiaid 2:16-17
Peidiwch, felly, â chymryd eich barnu gan neb ynglŷn â bwyta ac yfed, neu mewn perthynas â gŵyl neu newydd-loer neu Saboth. Cysgod yw'r rhain o'r pethau sy'n dod; Crist biau'r sylwedd.
Explore Colosiaid 2:16-17
Home
Bible
Plans
Videos