1
Y Pregethwr 12:13
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.
Compare
Explore Y Pregethwr 12:13
2
Y Pregethwr 12:14
Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.
Explore Y Pregethwr 12:14
3
Y Pregethwr 12:1-2
Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i'r dyddiau blin ddod, ac i'r blynyddoedd nesáu pan fyddi'n dweud, “Ni chaf bleser ynddynt.” Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw.
Explore Y Pregethwr 12:1-2
4
Y Pregethwr 12:6-7
Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew, cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes.
Explore Y Pregethwr 12:6-7
5
Y Pregethwr 12:8
“Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd yw'r cyfan.”
Explore Y Pregethwr 12:8
Home
Bible
Plans
Videos