1
Eseia 9:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”.
Compare
Explore Eseia 9:6
2
Eseia 9:2
Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.
Explore Eseia 9:2
3
Eseia 9:7
Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
Explore Eseia 9:7
4
Eseia 9:5
Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe'u llosgir fel tanwydd.
Explore Eseia 9:5
5
Eseia 9:1
Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.
Explore Eseia 9:1
6
Eseia 9:3
Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
Explore Eseia 9:3
7
Eseia 9:4
Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian.
Explore Eseia 9:4
Home
Bible
Plans
Videos