1
Jeremeia 17:7-8
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
Compare
Explore Jeremeia 17:7-8
2
Jeremeia 17:9
“Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?
Explore Jeremeia 17:9
3
Jeremeia 17:10
Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn profi cymhellion, i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”
Explore Jeremeia 17:10
4
Jeremeia 17:5-6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
Explore Jeremeia 17:5-6
5
Jeremeia 17:14
Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir; achub fi, ac fe'm hachubir; canys ti yw fy moliant.
Explore Jeremeia 17:14
Home
Bible
Plans
Videos