Yn unig cydnebydd dy gamwedd,
iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,
ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas,
heb wrando ar fy llais,’ medd yr ARGLWYDD.”
“Dychwelwch, blant anffyddlon,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.