1
Lefiticus 19:18
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.
Compare
Explore Lefiticus 19:18
2
Lefiticus 19:28
Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.
Explore Lefiticus 19:28
3
Lefiticus 19:2
“Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, ‘Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.
Explore Lefiticus 19:2
4
Lefiticus 19:17
“ ‘Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.
Explore Lefiticus 19:17
5
Lefiticus 19:31
“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Explore Lefiticus 19:31
6
Lefiticus 19:16
Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.
Explore Lefiticus 19:16
Home
Bible
Plans
Videos