1
Numeri 22:28
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, “Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?”
Compare
Explore Numeri 22:28
2
Numeri 22:31
Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.
Explore Numeri 22:31
3
Numeri 22:32
Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, “Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen
Explore Numeri 22:32
4
Numeri 22:30
Yna gofynnodd yr asen i Balaam, “Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?” Atebodd yntau, “Naddo.”
Explore Numeri 22:30
5
Numeri 22:29
Atebodd Balaam hi, “Fe wnaethost ffŵl ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd.”
Explore Numeri 22:29
6
Numeri 22:27
Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen â'i ffon.
Explore Numeri 22:27
Home
Bible
Plans
Videos