1
Titus 2:11-12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol
Compare
Explore Titus 2:11-12
2
Titus 2:13-14
a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da.
Explore Titus 2:13-14
3
Titus 2:7-8
Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom.
Explore Titus 2:7-8
Home
Bible
Plans
Videos