Duw, mewn ing gelwais, damwain guled;
Duw, gwaedhais, llefais ar lled — yn oerach,
Duw, llef arw afiach, dull afrifed.
Diau yw lysoedh i’m gwrandawed,
Dagrau a llefain dû egr llifed
I’w glustiau, ’ngeiriau ’n agored — union,
A dhaeth ger ei fron, cyfion kofied.