Salmau 119:113-116
Salmau 119:113-116 SCN
Yr wyf yn casáu rhai anwadal, Ond caraf dy gyfraith yn fawr. Ti ydyw fy lloches a’m tarian; Yn d’air y gobeithiaf bob awr. Trowch ymaith, rai drwg, oddi wrthyf, A chadwaf orchmynion fy Nuw. O cynnal fi, na’m cywilyddier, Ac, yn ôl d’addewid, caf fyw.