Salmau 119:1-4
Salmau 119:1-4 SCN
Gwyn fyd y rhai perffaith, sy’n rhodio Yng nghyfraith yr Arglwydd o hyd, Yn cadw ei farnedigaethau, A’i geisio â’u calon i gyd, Y rhai na wnânt unrhyw ddrygioni, Sy’n rhodio ei ffyrdd heb lesgáu. Fe wnaethost d’ofynion yn ddeddfau, A disgwyl i ni ufuddhau.