YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 122:4-9

Salmau 122:4-9 SCN

Yno y daw ar hynt Holl lwythau Duw o’u tref, Yn ôl y ddeddf i Israel gynt, I ddiolch iddo ef. Tŷ Dafydd yno sydd, A llys y gyfraith lem. Gweddïwch bawb bob nos, bob dydd, Am hedd Jerwsalem. Llwyddiant a fo i’r rhai A’th gâr, a bydded hedd O fewn dy furiau; boed dy dai Yn ddiogel rhag y cledd. Er mwyn i’m pobl gael byw, Dy hedd a fynnaf fi; Ac er mwyn tŷ ein Harglwydd Dduw, Fe geisiaf dda i ti.