YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 17

17
SALM 17
Cri am gyfiawnder
Pennant 87.87.D
1-4Rwyf yn llefain am gyfiawnder;
Dyro sylw i’m llef, a chlyw.
Gwrando gri gwefusau didwyll.
Doed fy marn oddi wrth fy Nuw.
Gwyliaist fi drwy’r nos heb ganfod
Dim drygioni ynof fi.
Ni throseddais gyda’m genau,
Ond fe gedwais d’eiriau di.
5-7Ar hyd llwybrau yr anufudd
Byddai ’nghamau’n pallu’n syth,
Ar dy lwybrau di, fodd bynnag,
Nid yw ’nhraed yn methu byth.
Gwaeddaf am dy fod yn f’ateb.
Dangos dy ffyddlondeb triw,
Ti sy’n achub â’th ddeheulaw
Bawb a’th geisia’n lloches wiw.
8-12Megis cannwyll loyw dy lygad
Cadw fi, a’m cuddio dan
Dy adenydd rhag gelynion
Sydd o’m cwmpas ym mhob man.
Bras eu calon, balch eu tafod,
Maent amdanaf wedi cau,
Bron â’m bwrw i’r llawr a’m llarpio,
Megis llew yn llamu o’i ffau.
13-15Cyfod, Arglwydd, yn eu herbyn;
Bwrw hwy i lawr i’r baw.
Gwared fi rhag y drygionus,
A dinistria hwy â’th law.
Cosba hwy, a chadw weddill
I’w babanod, wŷr di-hedd.
Ond caf fi, pan gyfiawnheir fi,
Fy nigoni o weld dy wedd.

Currently Selected:

Salmau 17: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in